Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Rhagfyr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(15 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Peter Fox (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynghylch ei hasesiad o Gyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelod i bwyllgor
(5 munud)
NNDM8441 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig).
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)
(60 munud)
NDM8422 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff James Evans AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2023 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
(30 munud)
NDM8419 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig;
b) cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac
c) grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amaeth
(60 munud)
NDM8440 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y rôl eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.
2. Yn nodi, am bob £1 a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.
3. Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru.
4. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig, sef cyfanswm o £37.5 miliwn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.
2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.
3. Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:
a) polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;
b) deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;
c) penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a
d) penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.
4. Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.
9 Cyfnod Pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2024